Y rôl
Rydym ni'n trawsnewid y ffordd y mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn gweithio gyda chymunedau lleol gyda’r nod o gyrraedd pob plentyn byddar a phob teulu sydd ein hangen ni, o’r cychwyn cyntaf. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn rhieni plant byddar sy’n eistedd wrth galon y gymuned ac wrth galon y sefydliad.
Mae rhieni plant byddar eisoes yn gwneud gwaith anhygoel, yn sefydlu grwpiau, cefnogi ei gilydd, eirioli dros blant byddar a chymaint mwy. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio o fewn eu cymuned leol i archwilio'r hyn sydd ei angen ar blant byddar a’u teuluoedd yn eu hardal, a sut y mae’r Elusen yn ymateb i’r anghenion hyn. Yn gryno, mae’r gymuned yn dweud wrthym ni beth sydd ei angen, ac rydym ni'n ymateb drwy gysylltu pobl, cyd-gynhyrchu mentrau gyda nhw ac adeiladu pontydd i greu cyfleoedd newydd.
Mae hon yn rôl gyflogedig newydd, lle byddwch chi'n defnyddio’ch gwybodaeth am eich ardal leol i feithrin cysylltiadau, archwilio cyfleoedd newydd, ac uno’r dotiau rhwng teuluoedd, gwasanaethau, grwpiau, addysg a phartneriaid mewn ffordd nad ydym ni wedi’i wneud o’r blaen. Mae’r rôl yn gwerthfawrogi profiad byw a gwybodaeth leol, felly nid oes angen profiad proffesiynol yn y maes hwn.
Pwy ydych chi
- Rydych chi'n rhiant neu’n ofalwr plentyn byddar ac mae gennych chi brofiad uniongyrchol o lywio’r gwasanaethau cymorth yn eich ardal.
- Rydych chi'n angerddol dros wneud gwahaniaeth i blant byddar a’u teuluoedd, ac yn cymryd rhan weithgar yn natblygiad cymunedol.
- Byddwch chi'n eiriolwr naturiol dros newid, a thrwy brofiad byw a’ch diddordeb chi eich hun, yn gweithio i wella’r cymorth sydd ar gael i blant byddar a theuluoedd.
- Byddwch chi'n aelod gweithgar o’ch cymuned leol o rieni plant byddar ac wedi meithrin rhwydwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth a phrofiad.
- Rydych chi'n credu bod gan bob teulu yr hawl i gael eu hysbysu'n llawn ac i gael yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn gallu penderfynu ar y dull gorau ar gyfer eu plentyn.
- Rydych chi'n gydweithiwr naturiol, yn empathig ac yn effeithiol iawn wrth adeiladu perthnasau cadarnhaol gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol.
- Mae’n ddymunol bod gennych chi sgiliau iaith Gymraeg – rydym ni'n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a’r rheini sy’n ymrwymedig i gefnogi darpariaeth gwasanaethau dwyieithog.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
- Nodi bylchau mewn cymorth a meithrin cysylltiadau yn eich cymuned gyda gweithwyr proffesiynol, grwpiau lleol a’r gymuned fyddar.
- Meithrin partneriaethau gyda gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn eich cymuned.
- Cysylltu â theuluoedd yn fuan ar ôl diagnosis, gan deilwra cymorth i’w hanghenion penodol.
- Cynyddu’r cysylltiadau rhwng rhieni, gweithwyr proffesiynol, grwpiau lleol, ysgolion, Gweithgorau Gwasanaethau Clyw Plant (CHSWG), a chyfleu argymhellion yn ôl i Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar ar gyfer newid trawsnewidiol.
- Rhannu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu gyda Rhieni Gysylltwyr eraill ac addysgu Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar ar feysydd allweddol i’w blaenoriaethu.
Pryd a ble
- Contract tymor penodedig 12 mis
- Hyd at 35 awr yr wythnos.
- Gweithio'n hyblyg ar gael (gan gynnwys rhan amser).
- Gweithio o bell gyda chyfarfodydd rheolaidd o fewn Gogledd Cymru, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n byw o fewn un o siroedd Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Dinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam.
- Mae mynediad at gar a thrwydded yrru lawn y DU hefyd yn hanfodol.
Beth fyddwch chi'n ei gael
- Gweithio o gartref gydag oriau hyblyg.
- 25 diwrnod o wyliau - ynghyd â 3 diwrnod ychwanegol dros y Nadolig (a gwyliau banc).
- Pensiwn (cyfraniad cyflogwr o 5.5%).
- Cynllun Arian Parod Gofal Iechyd
- Cynnydd cyflog blynyddol yn seiliedig ar berfformiad
- Rhaglenni Lles a Chymorth i Weithwyr.
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud
Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yw'r elusen flaenllaw i blant byddar. Rydym ni'n darparu cymorth arbenigol ar fyddardod plentyndod, yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu dros hawliau plant byddar fel bod ganddyn nhw'r un cyfleoedd â phawb arall.
Hyder o ran Anabledd
Rydym ni'n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac wedi ymrwymo at gynnig cyfweliadau i ymgeiswyr sy’n gofyn i gael eu hystyried o dan y cynllun hyder o ran anabledd ac sy’n bodloni gofynion lleiaf manyleb y person. Cysylltwch â ni yn [email protected] gydag unrhyw ymholiadau ynghylch hygyrchedd neu addasiadau rhesymol.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi’i chofrestru fel elusen yn Lloegr a Chymru (1016532) ac yn yr Alban (SC040779).